Thursday October 22nd, 2020

Bioaqua Farm yn dysgu “dyfodol ffermio cynaliadwy”

BioaquaFarm-main
Pictured: Amanda Heron and Antonio Paladino.

Tyfu llysiau a physgod, gydag ychydig iawn o ddŵr ac ynni a dim gwastraff.

Bwyd a gynhyrchir heb greu unrhyw wastraff, ac sy’n defnyddio ychydig iawn o ddŵr ac ynni – ydy technoleg acwaponeg yn cynnig ateb cynaliadwy yn ystod cyfnod ansicr?

Dyna farn cyd-sylfaenydd Bioaqua, Antonio Paladino yn bendant. Mae Bioaqua yn gartref i fferm acwaponeg brithyll mwyaf y DU, ac mae Paladino yn rhedeg y fenter gyda’i bartner, Amanda Heron o’u fferm ger Frome yng Ngwlad yr Haf. Cyfeiriwyd at Bioaqua gan arbenigwyr yn y diwydiant fel ‘ y system acwaponeg gorau yn y DU o bell ffordd’, ac mae’n denu clod fel dyfodol ffermio cynaliadwy.

Yn dilyn ymweliad â Borneo lle ‘daeth ar draws’ acwaponeg yn llythrennol, mae Paladino wedi treulio’r deng mlynedd diwethaf yn datblygu system i dyfu cnydau sy’n cyfuno ffermio pysgod organig, dyfrhau hydroponeg, ac yng ngeiriau Paladino ei hun, “dulliau naturiol y Fam Ddaear.” Cedwir y brithyll mewn niferoedd bach, ac maent yn cael bwyd organig. Ni ddefnyddir gwrthfiotigau, plaladdwyr na chwynladdwyr.

Er bod rhai’n ei feirniadu fel system ar gyfer gwledydd â hinsawdd gynhesach, gall costau rhedeg system acwaponeg mewn rhai o rannau oeraf y byd fod yn ddrud. Oherwydd prinder golau’r haul, mae ffermydd yn dibynnu’n helaeth ar olau artiffisial yn lle. Yn aml mae paneli solar yn annibynadwy ac mae’r biliau ynni’n uchel.

Nid dyna’r sefyllfa i Paladino, diolch i’w ddulliau technoleg isel, “rydym yn defnyddio trydan yn unig i ddyfrhau, ac i bwmpio dŵr ocsigenedig o gwmpas y tanciau. Rydym yn defnyddio 3kw o drydan bob awr ar gyfer 1000m2, sef tua’r un faint ag sydd ei angen i ferwi tegell.” Meddai Paladino dan wenu, “Y newyddion mawr, yw ein bod yn tyfu cnydau tymhorol mewn heulwen a’r pridd.”

Mae’n defnyddio twneli plastig heb unrhyw angen ar gyfer golau artiffisial. Yr unig elfen hydroponeg sy’n cael ei defnyddio yw dyfrhau. Mae’r dŵr, sy’n mynd trwy bio-ffilterau o’r tanciau pysgod, yn cael ei ddosbarth trwy system gaeëdig i gynnal y cnydau. “Rydym yn tyfu dwywaith y planhigion mewn hanner y gofod oherwydd mae’r dŵr yn llawn maetholion o wastraff y pysgod,” eglura Paladino. Mae’r system yn defnyddio dim ond 5% o’r adnoddau dŵr a ddefnyddir gan ddulliau ffermio traddodiadol.

BioaquaFarm-1
Antonio Paladino at Bioaqua Farm.

Cafodd Paladino, sy’n gogydd wrth ei alwad, ei fagu yng Ngogledd yr Eidal. “Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn materion amgylcheddol,” meddai Paladino, “Roeddwn i am wneud rhywbeth i wneud gwahaniaeth.”

Ac yntau’n awyddus i rannu ei wybodaeth, mae Paladino yn rhedeg cyrsiau rheolaidd. “Nid yw un dyn a’i fferm yn ddigon,” meddai, “trwy gydweithio, gallwn wireddu newid. Mae ein cyrsiau’n dod ag incwm bach i mewn, ond nhw yw’r eisin ar y gacen.”

Pysgod a llysiau yw prif ffynonellau incwm y teulu. Hefyd mae Paladino yn gwerthu marinadau a gynhyrchir o gynnyrch y fferm i fynd â’r brithyll. “Rydym yn masnachu trwy hwb bwyd ar-lein, mewn marchnadoedd ffermwyr lleol ac mewn gwyliau. Hefyd rydym yn cynnig gwasanaeth arlwyo preifat,” meddai Paladino.

Mae’r costau cychwyn yn amrywio, a chychwynnodd Paladino ei fusnes gyda grant bach gan gronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd. “Mae’r costau sefydlu’n uchel oherwydd mae’n rhaid mewnforio’r offer o dramor” meddai Paladino, “Cost model technoleg isel yw rhyw £200,000 yr erw a phris model technoleg uchel yw rhyw dair miliwn o bunnoedd.”

Cyngor Paladino yw, “Dyma’r amser i fuddsoddi. Ar ôl Brexit, bydd pethau’n anodd i gynhyrchwyr bwyd y DU. Dylech ddewis eich nod, gwneud eich ymchwil a chael cyngor gan rywun profiadol.” Wrth fyfyrio am ei uchelgais, dywed Paladino, “Byddaf yn dal wrthi nes ceir hyd i ddull cynaliadwy o gynhyrchu bwyd ar lefel fyd-eang.”

Gellir dysgu mwy a chael manylion y cyfleoedd hyfforddi yma: www.bioaquafarm.co.uk.

 

Categorïau: Dechrau. Tagiau: aquaponics, fish, horticulture, on-line sales, organic, Somerset, sustainable production, training, a vegetable growing.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.