Thursday October 22nd, 2020

Troed y Rhiw Organics yn rhannu gwersi llwyddiant raddfa fach

troedyrhiw-main
Pictured: Nathan Richards and Alicia Miller.

Model ffermio cynaliadwy’r 21ain ganrif yng Ngorllewin Cymru.

Nathan Richards a’i bartner, Alicia Miller sy’n rhedeg Troed y Rhiw Organics, fferm organig gymysg 23-erw ar arfordir Gorllewin Cymru. Garddwriaeth yw eu ffocws, ac maent yn gwerthu bwyd hynod-leol i gymunedau gerllaw trwy gynllun bocsys, marchnad cynhyrchwyr, bwytai a siopau.

Sefydlwyd y busnes yn 2008, a seilir ethos y fferm ar yr angen i ffermio mewn ffordd gynaliadwy yn yr 21ain ganrif. Mae’r fferm yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau tymhorol trwy gydol y flwyddyn, ac mae ganddynt fuches fach o wartheg yr Ucheldir ar gyfer cig, sy’n ychwanegu gwrtaith ac yn meithrin bioamrywiaeth ar draws y fferm.

Yn 40 oed, cerddodd Nathan i ffwrdd o yrfa 20 mlynedd fel cyfarwyddwr ffilm er mwyn ail-gysylltu â’i freuddwyd o ffermio ers roedd yn ei arddegau. “Ar ôl gadael yr ysgol, roeddwn am fod yn ffermwr organig, ond wrth adael yr ysgol mewn dinas heb unrhyw gymwysterau yn y maes, neges yr ‘ymgynghorydd gyrfaoedd’ oedd nad oedd unrhyw obaith o hyn. Ar hap bron, dechreuais i weithio ym myd ffilm, yn gwneud fideos cerdd gyda sêr y byd pop,” meddai Nathan, “Roedd yn fywyd gwych, ond wrth aeddfedu, roedd yn dechrau teimlo’n annigonol. Dechreuais i feddwl mwy am yr amgylchedd, a’m cyfraniad iddo a sylweddoli y byddai’n well gennyf fod yn ffermwr.”

Deilliodd rhan o ddiddordeb Nathan mewn ffermio organig o’i ymrwymiad i ecoleg. “Ym 1976 a minnau’n 13 oed, darllenais i sticer ar gefn Citroen Dyan, gyda’r geiriau ‘Ecology Now’. Doedd gen i ddim syniad am ei ystyr, ond ar ôl cyrraedd adref es i chwilio am ‘ecology’ yn y geiriadur – ers hynny mae ystyr y gair wedi bod ar fy meddwl o hyd.” Roedd y pryder hwnnw’n gyffredin i’r ddau ohonynt, ac yn y pen draw, “dyma ni’n penderfynu codi oddi ar y ffens a gwneud rhywbeth” meddai Alicia.

troedyrhiw-1
Highland cows at Troed y Rhiw.

Maen nhw’n byw ar fferm Troed y Rhiw ers deng mlynedd bellach, ac maen nhw wedi canolbwyntio ar sefydlu maint eu busnes i wneud iddo lwyddo. “Mae’n rhaid inni’n dau allu rheoli’r fferm,” meddai Alicia, “mae talu am weithwyr yn ddrud, ac mae angen inni sicrhau fod y fferm yn hyfyw. Bu’n rhaid inni arallgyfeirio er mwyn goroesi fel fferm fach.” Trwy droi ysgubor 250 mlwydd oed yn fythynnod gwyliau ar ôl cyrraedd y fferm, maent wedi ychwanegu ffrwd incwm hollbwysig arall i’r busnes.

Mae’r fferm yn lle prysur, gydag un thema gyffredin: annog pobl i ofalu am y tir a chysylltu â bwyd a ffermio cynaliadwy. Ers y cychwyn, mae Alicia a Nathan wedi rhedeg cyrsiau ar ddatblygu sgiliau cynaliadwy. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda Fferm Mêl Cei Newydd, yn rhedeg ‘Penwythnosau Cadw Gwenyn’ ac maen nhw wedi cynnal dyddiau chwilota am fwyd gwyllt gyda chwilotwr lleol Jade Mellor. Hefyd maen nhw’n rhedeg cwrs, ‘Sefydlu busnes Ffermwr, Tyfwr a Thyddynwr Cynaliadwy’, lle maen nhw’n defnyddio eu profiad a’u gwybodaeth helaeth wrth ddysgu.

“Mae angen meddwl mewn ffordd greadigol, does dim rhaid i’r arallgyfeirio fod yn seiliedig ar dwristiaeth ,” dywed Alicia, gan gyfeirio at ffermwr eidion o Gymru sydd hefyd yn cynhyrchu crwyn gwartheg er mwyn creu cynnyrch lledr o’r safon uchaf, a ffermwr laeth o Dorset sy’n gwerthu fodca llaeth. Mae’r costau uchel tybiedig ar gyfer bwyd organig yn gallu bod yn rhwystr. “Mae pobl yn awyddus iawn i gael bwyd rhad,” meddai Alicia, “Ond, ’dwi wedi cymharu prisiau archfarchnadoedd gyda bwydydd cymharol organig, ac yn aml mae ein cynnyrch ni’n cynnig gwell gwerth am arian. ”Ac mae arferion bwyta’n her arall. “Nid yw pobl yn bwyta digon o lysiau,” dywed Alicia dan chwerthin, “Maen nhw’n glynu at yr un cynnyrch drwy gydol y flwyddyn, yn lle bwyta llysiau tymhorol.”

Mae masnachu ar lefel leol yn helpu pontio’r bwlch yma. “Rydym yn ymrwymo i farchnadoedd wythnosol yn hytrach na rhai misol,” yn ôl Alicia, “Mae’n bwysig bod ar gael i gwsmeriaid yn rheolaidd bob wythnos.”

I bobl sy’n newydd i fyd ffermio, dywed Alicia, “mae angen gwneud eich gwaith cartref am eich sefyllfa ariannol a gwybod beth allwch ei fforddio. Gofalwch eich bod yn gyfarwydd â’ch ffrydiau incwm, ac y gallwch reoli’r hyn rydych yn ymrwymo iddo’n effeithiol. Yng Nghymru mae Cyswllt Ffermio yn cynnig seminarau hyfforddi ym maes busnes i ffermwyr, oedd o gymorth mawr inni.” Hefyd mae Alicia yn argymell cael hyd i fanc sy’n barod i weithio gyda chi, “ Triodos oedd ein dewis ni, banc moesegol sy’n arbenigo mewn ffermio organig. Maen nhw’n deall y problemau sy’n wynebu ffermwyr cynaliadwy raddfa fach, ac mae hynny’n werthfawr iawn.”

Gellir dysgu mwy am y fferm a’r cyrsiau hyfforddi yma: www.troedyrhiwfarm.co.uk.

 

Categorïau: Dechrau. Tagiau: beef, Ceredigion, horticulture, local food, local markets, organic, small-scale producers, sustainable production, tourism, training, vegetable growing, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.