Friday October 2nd, 2020

Parc y Dderwen yn rhannu ongl newydd ar arddwriaeth gynaliadwy

parcydderwen-main
Pictured: Lauren Simpson and Phil Moore.

Deuawd “One Planet” o Gymru’n bywiogi proses eplesu.

Mae Lauren Simpson a Phil Moore wedi lansio busnes eplesu bwyd sy’n torri targedau gwerthiant ac yn agor y drws i ffordd gynaliadwy o fyw.

Yn seiliedig ar eu credoau o ran tarddiad bwyd, mae’r cwpl yn cynhyrchu bwyd eplesedig organig megis bresych picl, kimchi a mwstard graenog i’w gwerthu’n lleol yn sir Benfro. Cynnyrch crai yw’r holl gynnyrch, ac yn destun proses eplesu naturiol ac felly’n cynnwys bacteria probiotig, sy’n hanfodol ar gyfer coludd iach.

“Yn wreiddiol, roedd cynfennau, megis mwstard a saws poeth, yn cael eu heplesu,” meddai Lauren, “Ac rwyf am ailgydio yn y broses honno.”

Diolch I ‘Cenedl Un Blaned’ polisi cynllunio a grëwyd gan y Senedd, roedd yn bosib i’r cwpl arfer eu credoau. Mae’r fenter yn galluogi creu tyddynnod ar dir amaethyddol, mor bell â’u bod yn bodloni targedu bywyd cynaliadwy. Hefyd mae angen i gyfranogwyr sefydlu busnes cynaliadwy o’r tir er mwyn talu eu costau byw: cludiant, treth gyngor, cyfathrebu, dillad a bwyd. Busnes bwyd eplesedig Lauren a Phil yw allwedd eu dewis ffordd o fyw.

Chwe blynedd yn gynharach, aeth y cwpl i deithio ar draws Canol a De America. Wrth aros ar ffermydd, bydden nhw’n gwirfoddoli er mwyn cynaeafu a phrosesu llysiau ar raddfa fawr. Yma y dysgwyd crefft eplesu, oherwydd mae cynfennau a phrydau picl yn rhan o brydau bwyd bob dydd.

Darbwyllwyd Lauren. “Mae rhywbeth gwyrthiol am eplesu,” meddai, “Mae’n debyg i bobi, pan fyddwch yn troi cynhwysion crai yn rhywbeth hollol wahanol.”

parcydderwen-1

Wrth ddychwelyd i Gymru, roedd y cysylltiad gyda chynllun Cenedl Un Blaned yn amlwg iddynt.

“Mae’r broses o eplesu bwyd yn syml iawn,” yn ôl Lauren “Mae’r offer yn sylfaenol iawn, a’r gofynion o ran ynni’n isel iawn oherwydd mae prosesau hollol naturiol yn gwneud y gwaith. Nid yw bwyd eplesedig yn creu llawer o effaith. Mae’r busnes yn creu incwm ar ein cyfer, ac yn ticio holl flychau Un Blaned.”

Ar hyn o bryd, maen nhw’n defnyddio llysiau organig mor agos at adref â phosib a’r bwriad yw tyfu rhai eu hunain yn y dyfodol agos ar y tyddyn 12 erw cynaliadwy sydd ganddynt. “Mae’n her enfawr trawsnewid cae pori’n dyddyn cynhyrchiol,” yn ôl Phil, “Ond gan ein bod wedi teithio cymaint, rydym wedi arfer â bywyd syml.”

Treuliwyd y flwyddyn gyntaf yn chwilio am farchnadoedd amrywiol, megis siopau lleol, marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd. “Buom yn ffodus iawn,” meddai Lauren “codwyd proffil bwydydd eplesedig ar The Archers ar Radio 4 a gan fwytai Wagamamas. Mae siopau wedi bod yn hapus i gadw ein cynnyrch gan ein bod yn gynhyrchwyr lleol.”

Hefyd mae addysg yn rhan o’u cynllun. “Rydym yn awyddus i ddysgu pobl hefyd, yn ogystal â gwerthu iddynt,” dywed Lauren. Mae’r cwpl wedi cynnal eu dau weithdy gyntaf, ac mae mwy ar y gweill.

Wrth feddwl am eu llwyddiant sydyn o safbwynt twf, meddai Lauren, “rydym eisoes wedi cyrraedd lle roeddem am fod. Trwy barhau i werthu’n lleol ac mewn ffordd hawdd ei rheoli, gallwn gynnal ein ffordd o fyw. Pe byddem yn ehangu, byddai’n dileu’r rhesymau dros gychwyn yn y lle cyntaf.” Ychwanega Phil, “cwestiwn o ailddiffinio llwyddiant yw. Inni, mater yw o fwynhau manteision ffordd gynaliadwy o fyw, cynhyrchu bwyd da i’r gymuned leol a byw ar y tir.”

I’r rhai sydd am gychwyn, cyngor Lauren yw, “Arbrawf oedd hwn i gychwyn mwy neu lai, gyda chostau isel, a thyfu’n raddol. Mae ymchwil i’r farchnad yn hollbwysig. Mae angen gweithio allan eich prisiau i gynnwys costau amrywiol. A chadwch lygad ar fanylion a gwybod beth yw eich targed, meddai Phil, “Ewch i siarad â phobl. Unwaith mae pobl yn ymddiried ynoch, byddan nhw’n prynu gennych. Y gwir yw pobl sy’n gwerthu cynnyrch.” “A chofiwch fwynhau,” meddai.

Ceir mwy o fanylion ar Facebook Parc y Dderwen: @ParcyDderwen ac Instagram: @parc_y_dderwen.

 

Categorïau: Straeon llwyddiant. Tagiau: adding value, local markets, organic, Pembrokeshire, provenance, small-scale producers, sustainable production, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.