Thursday October 22nd, 2020

Gardd y Gegin yn cynnig lle i dyfu, bwyta a dysgu

Kitchengarden-main
Pictured: Rae Gervis. Photo: As You See It Media.

Y tyfwr Rae Gervis, sy’n defnyddio arferion dim palu yn gobeithio creu hwb dysgu ar gyfer cynnyrch lleol.

“Bwyd oedd fy mheth i erioed ” meddai Rae Gervis, wrth ddangos ei gardd gegin lle defnyddir compost i fwydo planhigion heb balu’r pridd. Ychydig llai nag erw sydd ganddi, ond mae’n ddigon ar gyfer cynhwysion sylfaenol ac yn sail ar gyfer ei gweithgareddau busnes amrywiol. Mae Rae yn dysgu cyrsiau garddwriaeth gynaliadwy yn yr ardd, ac yn rhedeg busnes arlwyo gan ddefnyddio cynhwysion a gesglir yn llythrennol o’i stepen drws. Mae’n gwerthu cynnyrch ffres a jamiau a phiclau o’i siop mewn ysgubor gerllaw. Hefyd mae’n cario cynnyrch tyfwyr a chynhyrchwyr lleol.

“Rwyf am greu hwb ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Rwyf yn awyddus i bobl wybod eu bod yn gallu dod yma a chael cynnyrch lleol a dyfir yn ôl safonau organig. Rwyf am i gynhyrchwyr wybod bod lle ar gael iddyn nhw werthu eu nwyddau ochr yn ochr ag eraill sy’n defnyddio’r un gwerthoedd cynhyrchu. Rwyf am i’r lle ‘ma fod yn lle lle gall pobl deall o ble y daeth popeth maent yn ei drin, beth yw achos ac effaith ei gynhyrchu, a’i ôl-troed,” meddai Rae.

Mae Gardd Gegin Ty-Mawr yn rhan o hen safle ffermio, ac yn gartref i fusnes Ty-Mawr Lime Inc, cwmni ym maes deunyddiau adeiladu cynaliadwy ar lannau Llyn Syfaddan yng Nghanolbarth Cymru. Lleoliad ychydig diarffordd yw, ac mae Rae yn cyfaddef y bu’n rhaid iddi arallgyfeirio er mwyn goroesi, ond mae’n mynnu y gellir addasu maint cysyniad garddwriaeth heb balu a chynhyrchiant cynaliadwy, a gall fod yn hynod lwyddiannus mewn lleoliad mwy prysur.

Kitchengarden-main
Rae Gervis at the Kitchen Garden. 

Fel yr awgryma’r enw, mae garddwriaeth dim palu yn golygu nad yw’r tir yn cael ei dorri. Rhoddir haen drwchus o gompost naturiol ar y gwelyau tyfu, ac mae’r hadau neu’r eginblanhigion yn cael eu hau ynddynt. Mae dim palu’n golygu y cedwir unrhyw garbon sydd yn y pridd, sy’n cael ei ategu gan y compost ar ei ben – sy’n golygu gollwng llai i’r awyrgylch. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw’r micro-organebau amrywiol yn y pridd sydd â gofynion ocsigen gwahanol yn cael eu heffeithio, sy’n caniatáu ailgylchu’r maetholion a charbon yn effeithlon yn y pridd.

Mantais arall gardd dim palu yw nad yw hadau chwyn yn cael eu tarfu – sy’n golygu llai o chwyn. “Wrth balu,” meddai Rae, “fe welwch lwyth o chwyn, oherwydd mae’r hadau’n dod i’r wyneb, ac mae’r goleuni yn achosi iddyn nhw egino’n naturiol. Mae llawer o’r bobl rwyf yn eu dysgu wedi ofni tyfu eu bwyd eu hunain oherwydd eu bod o’r farn y byddai’n ormod o waith caled. Wrth weld y dechneg hon, maen nhw’n deall ei fod mewn gwirionedd yn lleihau’r ymdrech sydd ei angen.”

Mae’r llysiau’n cael eu heplesu i’w cadw – proses a ddysgir gan Rae, ynghyd â chyrsiau eraill megis chwilota am berlysiau gwyllt i greu gin botanegol. Ac ar ben nosweithiau blasu gwin, nosweithiau o fwyd Eidalaidd, gwersylla ar lannau’r llyn a blychau llysiau i’w casglu, mae hwb bwyd Gardd Gegin Rae mor amrywiol â’r amgylchedd o’i chwmpas.

I ddysgu mwy am Ardd Gegin Rae a’r cyfleoedd dysgu ewch i: www.lime.org.uk/products/the-kitchen-garden.

 

Categorïau: Dechrau. Tagiau: horticulture, local food, local markets, no-dig, on-line sales, organic, permaculture, Powys, sustainable production, training, vegetable growing, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.