
Kindling Trust Manceinion yn helpu tyfwyr bach i dyfu

Mae’r Kindling Trust yn dysgu sut i ehangu o dyfu ar ardd a rhandir i dyfu ar raddfa fasnachol.
Dros y degawd diwethaf, mae’r fenter gymdeithasol o Fanceinion wedi bod yn helpu darpar ffermwyr lleol i gynllunio i dyfu ar raddfa fasnachol a deall agweddau ymarferol megis cynnal iechyd y pridd, rheoli plâu a heintiau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae 27 o bobl wedi mynd drwy raglen Cychwyn Ffermio’r sefydliad, sy’n dangos realiti symud at y lefel nesaf ym maes garddwriaeth breifat. Yn ogystal, mae wedi lletya 90 o bobl eraill ar y rhaglen estynedig i dyfwyr masnachol.

I rai cyfranogwyr, mae’r broseso dyfu yn sioc i’r system, meddai’r cyd-sylfaenydd a’r cydlynydd Helen Woodcock.
“Mae’n dipyn o brawf realiti,” meddai. “Yn aml bydd pobl yn dweud: ‘Dwi ddim eisiau gorfod chwynnu bob tro ’dwi’n mynd yno’. Wel, dyna’r sefyllfa mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â dangos y realiti o dyfu masnachol i bobl i’w helpu penderfynu a yw’n addas iddyn nhw cyn penderfynu buddsoddi mewn tir neu offer.”
“O safbwynt y nod ehangach o leihau uchafiaeth amaethyddiaeth gorfforaethol sy’n dinistrio ar lefel gymdeithasol ac ecolegol, mae’n hanfodol ein bod yn galluogi pobl i dyfu mwy na’r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn unig”, meddai Helen.
Buom yn siarad gyda Helen yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen.
“Mae garddio mor bwysig ar gymaint o lefelau. Ond hyd yn oed pe byddai pawb yn tyfu ychydig bach yn yr iard gefn, ni fyddai’n bosib inni fwydo ein hunain. Mae’n fwy effeithlon i dyfu cnydau ar raddfa cae, felly mae angen inni fagu sgiliau ymhlith cenhedlaeth newydd o dyfwyr i allu gwneud hynny. Ac mae angen eu gwerthfawrogi mewn ffordd briodol er mwyn gallu gwneud bywoliaeth ohono.”
Mae tyfu organig yn waith caled, gyda risg uchel a chyflog isel, ond mae tyfwyr newydd yn darganfod hefyd ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Maent yn rhan o symudiad i geisio newid y cydbwysedd i fwyd lleol, a gynhyrchir mewn ffordd gynaliadwy sy’n cyfrannu at nodau byd-eang megis diogelu’r pridd, sicrhau bod bwyd ffres iachus yn hygyrch i bawb, a lleihau allyriadau carbon amaethyddiaeth ar raddfa ddiwydiannol.
“Mae pobl yn awyddus i newid pethau, yn lle cynhyrchu ar gyfer nhw eu hunain; mae’n fater o gael cyfle i’w wneud a theimlo’n rhan ohono,” dywed Helen.
Gellir dysgu mwy am sut i gyfrannu yma: www.kindling.org.uk.
Categorïau: Dechrau. Tagiau: allotment, commercial scale, horticulture, livelihood, local food, Manchester, organic, scaleable, training, a vegetable growing.