Saturday October 10th, 2020

Stream Farm yn dysgu dechreuwyr sut i lwyddo

stream-farm-main
Pictured: James Odgers.

Addysgu cenhedlaeth newydd o ffermwyr bach.

Yn aml mae costau uchel tir yn rhwystr i ddarpar ffermwyr bach, ond nid felly mae hi ar Stream Farm.

Mae’r safle 250-erw ym Mryniau’r Quantock yng Ngwlad yr Haf yn hyfforddi dechreuwyr newydd ym musnes a moeseg sgiliau megis ffermio eidion, ieir neu frithyll, ac wedyn yn gadael iddyn nhw fynd ar ôl rhyw flwyddyn neu ddwy, yn y gobaith y byddant yn cychwyn eu ffermydd bach eu hunain fydd yn helpu lleddfu ehangder amaethyddiaeth fasnachol ar raddfa ddiwydiannol.

Model grymus yw hwn, sydd wedi arwain at gynhyrchu rhyw 25 o ffermwyr ers i’r perchnogion James a Henrietta Odgers, brynu’r fferm yn 2002. Nid yw pawb wedi cychwyn busnesau ffermio, ond mae pob un ohonynt wedi magu’r sgiliau sydd eu hangen i redeg eu busnes bach eu hunain.

Nid oes rhaid i’r dechreuwyr dalu ffi, na hyd yn oed cael profiad ym maes ffermio i ymuno â’r cynllun, ond dylen nhw fod yn awyddus i ddysgu, meddai James. Bydd incwm o’u rhan nhw o fenter Stream Farm yn arwain at fywoliaeth o £24,000-£25,000 y flwyddyn – ychydig yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, ac ychydig yn uwch na chyfartaledd lleol Gwlad yr Haf. Bydd beth bynnag sy’n weddill yn talu costau megis bwyd neu ffensio, ac mae’r gweddill yn mynd i James a Henrietta fel elw.

stream-farm-1
Stream Farm in Somerset.

Ar ôl 15 mlynedd, mae’r fferm at ei gilydd yn agos i fantoli ac wedi profi ei gallu i addysgu cenhedlaeth newydd o ffermwyr bach fydd yn gwerthu eu cynnyrch yn lleol ac yn defnyddio dulliau organig ble bynnag fo’n bosib.

“Yr hyn sy’n f’ysgogi yw gweld cefn gwlad a ddinistriwyd gan fanwerthwyr lluosog mawr a chwmnïau mawr sy’n darparu gwrtaith a chwistrellau, yn dychwelyd i sut y dylai fod, ac yn cael ei hailboblogi gan ffermwyr bach,” meddai James, 63, oedd yn gweithio ym maes y gyfraith a chyllid, ac yn rhedeg rhaglen micro-cyllid i fenywod cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd yn ne Llundain.

A’i ddadl yw bod rhaglen Stream Farm yn dempled i eraill ei efelychu. “Ni fyddai angen i unrhyw un ail-greu’r olwyn nawr,” meddai.

Gellir dysgu mwy am hyfforddiant Stream Farm yma: www.streamfarm.co.uk.

 

Categorïau: Dechrau. Tagiau: apprenticeship, beef, landowners, organic, Somerset, a training.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.