Monday October 12th, 2020

Gwerthu bwyd lleol trwy siopau ar-lein

selling-local-markets-food

Er bod gan lawer o fusnesau eu sianeli marchnata unigryw, mae llawer o gynhyrchwyr yn gwerthu i ddefnyddwyr lleol trwy farchnadoedd ffermwyr ar-lein a rhwydweithiau bwyd. Rydym wedi nodi isod rhai o’r gwefannau gwych sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru

 

Open Food Network

Llwyfan ar-lein yw’r Open Food Network lle gall ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd werthu eu cynnyrch am bris sy’n gweithio iddyn nhw. Model rhagorol yw hwn ar gyfer busnes unigol ac fel cymuned o ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd. Yn hyn o beth, mae’n cyfateb i farchnad ffermwyr rhithwir. Yn ei dro, mae hyn yn golygu llawer mwy o ddiogelwch i ‘stondinwyr’, oherwydd mae pobl yn prynu’r cynnyrch ymlaen llaw. Hefyd ar y wefan hon gall cynhyrchwyr gadw trefn ar yr hyn a werthir a’u cyfrifon. Gellir cofrestru am ddim ar Open Food Network. Wedyn mae cynhyrchwyr bach sy’n masnachu llai na £500 yn talu rhodd o o leiaf £1 y mis NEU 2% o’u gwerthiant heb unrhyw isafswm, felly does dim risg ichi wrth gychwyn.

 

Local Food Nodes

Llwyfan ar-lein datblygiadol yw Local Food Nodes lle gall cynhyrchwyr bwyd werthu er cynnyrch i farchnad ar-lein am ddim. Un o brif nodau Local Food Nodes yw gwneud bwyd yn beth lleol eto. Yn y model hwn, does dim dynion canol – y cynhyrchwyr sy’n gwerthu eu cynnyrch ar-lein, ac mae’r holl daliadau’n mynd yn syth o’r defnyddiwr i’r cynhyrchwr. Bydd y cynhyrchwr yn cyflenwi’r cynnyrch i’r cwsmer ei gasglu mewn lleoliad a drefnwyd ymlaen llaw gan y cynhyrchwr e.e. maes parcio – ac mae hyn yn ei dro’n creu nod bwyd lleol. Mae’r model dal yn destun gwaith datblygu ac adeiladu, ond mae ganddo’r potensial i fod yn llwyddiant enfawr.

 

carmarthen food

Carmarthen Food

Llwyfan ar-lein pwrpasol yw Carmarthen Food ar gyfer cynhyrchwyr bwyd, sy’n cynnig gwasanaeth clicio a chasglu, rhwydd ei ddefnyddio bob wythnos yn ogystal ag opsiynau cludo cynnyrch. Ffordd wych arall o ddod â chynhyrchwyr, tyfwyr a phrynwyr bwyd lleol at ei gilydd, a chryfhau’r economi bwyd lleol. Mae gan bob cynhyrchwr ei dudalen unigol, sy’n dangos yr holl gynnyrch. Hefyd ceir ‘tudalen farchnad’, sy’n grwpio cynnyrch tebyg gyda’i gilydd. Mae popeth yn cael ei archebu ymlaen llaw, felly does dim gwastraff. Mae wedi bod yn llwyddiannus yn ardal Caerfyrddin, a gellir creu gwefan debyg ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd mewn unrhyw dref/ranbarth. Mae’r model hwn yn codi 17% comisiwn.

 

neighbourfood

NeighbourFood

Marchnad ar-lein yw NeighbourFood ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i’r gymuned leol. Nid yw’n cynnwys unrhyw gynnyrch a dyfir ar lefel fasnachol nag a fagir trwy ddulliau dwys. Gall defnyddwyr casglu’r archeb neu gellir ei gludo i’r cwsmer. Y cynhyrchwyr sy’n dewis pris gwerthu’r cynnyrch, a thelir am bopeth ymlaen llaw, gan leihau gwastraff i raddau enfawr. Mae’r cynhyrchwyr yn derbyn adborth uniongyrchol gan y cwsmeriaid, sy’n golygu eu bod yn gwybod yn union beth mae’r cwsmeriaid yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi. Mae’r system yn creu cymuned sydd â diddordeb gwirioneddol mewn bwyd lleol. Mae’r cynhyrchwyr yn derbyn 80% o werth y gwerthiant, heb DAW. Mae lletywr y farchnad yn derbyn 10% am gynnal a rhedeg y farchnad, ac mae Neighbourhood Food yn derbyn 10% am gostau cynnal a chadw a datblygu’r wefan.

Os ydych yn gwybod am unrhyw wefannau eraill sy’n cysylltu cynhyrchwyr bwyd â marchnadoedd lleol, cofiwch gysylltu!

 

Categorïau: Cyfleoedd i farchnata. Tagiau: local food, local markets, on-line sales, a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.