Saturday November 21st, 2020

Tyfu Cymru’n cefnogi garddwriaeth fasnachol yng Nghymru

summer salad

Mae Tyfu Cymru yn cynnig hyfforddiant a chymorth technegol am ddim i fusnesau ym maes garddwriaeth fasnachol yng Nghymru.

Ymhlith eu gwasanaethau mae:

  • cymorth technegol unigol ar amrediad eang o bynciau megis gwella cnydau, technegau tyfu newydd a delio gyda chyllid
  • gweithdai hyfforddi a dosbarthiadau meistr – a gyflwynir ar-lein ers Covid-19
  • hwb gwybodaeth sy’n cynnig amrediad o wybodaeth ar gyfer busnesau garddwriaeth fasnachol
  • rhwydweithiau ar bynciau penodol ym meysydd pwmpenni a gwrdiau, ffrwythau meddal, ffrwythau sy’n tyfu ar goed, llysiau, planhigion addurnol, blodau, coed Nadolig a hadau – gall aelodau’r rhwydwaith ymuno â throeon dysgu a gweithdai, derbyn cyngor technegol a chwrdd ag eraill yn yr un maes.

Menter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yw Tyfu Cymru, sydd ar waith ers 2017, fydd yn cael ei chyllido hyd at 2023. Mae wedi creu bas data o dros 430 o fusnesau Cymreig ym maes garddwriaeth. Yn 2020 lansiodd Cynllun Garddwriaeth Fasnachol 2020, sef rhaglen mapio ar gyfer dyfodol garddwriaeth yng Nghymru. Mae hybu garddwriaeth yn hanfodol o ran cynlluniau Llywodraeth Cymru wrth adfer yn sgil pandemig Covid-19, a nodwyd hyn gan y Tasglu Adferiad Gwyrdd fel llwybr i gyflymu’r broses pontio i economi carbon isel a chenedl iachach, fwy cydradd yng Nghymru.

Cysylltwch â Tyfu Cymru ar tyfucymru@lantra.co.uk neu 01982 552646.

Llun gan André Lergier ar Unsplash

 

Categorïau: Dechrau.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.