Thursday October 22nd, 2020

Cyrsiau a hyfforddiant i sefydlu busnes bwyd newydd yng Nghymru

courses training Wales

I raddau helaeth mae dyfodol y diwydiant bwyd yn nwylo cynhyrchwr bach, ac mae angen mwy o fusnesau bwyd bach yng Nghymru os ydym am fod yn gynaliadwy o safbwynt ein bwyd. 

Gan Miriam Fisher, Crughywel

Bydd y diwydiant bwyd yng Nghymru yn edrych yn wahanol iawn yn y cyfnod wedi COVID-19 ac wedi Brexit. Disgwylir y bydd diweithdra ar gynnydd, ac mae’r syniad o fod yn berchen ar a rhedeg busnes bwyd llwyddiannus yn fwyfwy deniadol yma yng Nghymru, yn enwedig i bobl ifanc fel fi. Rydym yn awyddus i fyw yma, ond beth os nad oes swyddi ar gael inni?

Mae cyfoeth o gymorth a chefnogaeth ar gael, yn amrywio o adborth ar syniadau busnes, i gyrsiau, i gyllid a mentora.

Rwyf wedi ymchwilio i’r hyn sydd ar gael, ac wedi llunio’r rhestr yma. (Os gwelwch fwlch, cofiwch gysylltu!)

Hefyd mae’n werth edrych ar adran Straeon Llwyddiant ar y wefan hon i weld enghreifftiau gwych o fusnesau bwyd yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill, a chymerwch gip ar y dudalen Cyfleoedd Hyfforddi am ffyrdd i gael profiad ar ffermydd o gwmpas y DU.

Pob hwyl!

 

Cymorth i gychwyn syniadau busnes newydd

Syniadau Mawr Cymru

Mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc (dan 25 oed) sydd â diddordeb mewn cychwyn eu busnes eu hunain. Mae’r wefan yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor i entrepreneuriaid ifanc, yn amrywio o ystyried sefydlu busnes, i farchnata a chyflogi gweithwyr. Hefyd maen nhw’n rhedeg gweithdai ar draws Cymru i ysbrydoli pobl ifanc a chefnogi eu syniadau. Modelau rôl, pobl sydd â’u busnes eu hunain, sy’n cyflwyno’r gweithdai hyn, ac maent yn gallu darparu cymorth parhaus.

Hefyd maen nhw’n gyfeillgar iawn ac yn hapus i siarad gyda chi.

 

farming-connect-logo

Cyswllt Ffermio

Cangen o Fusnes Cymru yw Cyswllt Ffermio, sy’n darparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant i ffermwyr a busnesau bwyd yng Nghymru. Maent yn gallu helpu os hoffech ddatblygu syniadau busnes newydd.

cywain-logo

 

Cywain

Mae Cywain yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i dyfu. Maent yn gallu helpu pobl i fagu sgiliau, cynyddu cynaliadwyedd a chael hyd i farchnadoedd newydd.

 

 

 

 

Menter a Busnes

Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau.

 

Enterprise Nation

Sefydliad ar gyfer aelodau yn y DU yw Enterprise Nation ar gyfer entrepreneuriaid. Mae’n trefnu llawer o bethau megis 300 o gyfarfodydd y flwyddyn ar bynciau gwahanol. Mae ganddynt brosiect Cenhedlaeth Nesaf ar gyfer entrepreneuriaid newydd, ac maent yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd trwy brosiect She Means Business.

Prince’s Trust Wales

Mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu pobl ifanc 18-30 oed i gychwyn eu busnes eu hun. Os oes gennych syniad busnes mewn golwg, neu os hoffech ddatblygu syniad, maent yn darparu hyfforddiant, mentora a chyllid trwy’r gefnogaeth cychwyn busnes am ddim.

 

Ac i bobl ychydig bellach ymlaen ar y daith…….

Arloesi Bwyd Cymru

Mae Arloesi Bwyd Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn dod â thair canolfan bwyd ynghyd: Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE (Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Canolfan Bwyd Cymru, Horeb, Ceredigion) a’r Ganolfan Technoleg Bwyd (Coleg Menai). Mae’r canolfannau bwyd hyn yn gallu rhoi adborth ar syniadau newydd, helpu datblygu a phrofi cynnyrch newydd a rhoi cyngor technegol ar dechnoleg bwyd.

 

Cyrsiau addysg bellach

Gweler isod rhai o’r cyrsiau mewn tyfu a chynhyrchu bwyd yng Nghymru, er gallwch fynd unrhyw le yn y DU neu du hwnt i hynny i gael hyd i fwy.

Gradd mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ym Mhrifysgol Met Caerdydd sy’n cynnig mynediad i’r diwydiant bwyd.

Ar wefan Gyrfaoedd Blasus Cymru ceir rhestr o gyrsiau ar draws y DU, er enghraifft, rheolaeth bwyd, technoleg bwyd, pobi /teisennau, bragu, pysgod a physgod cregyn a chigyddiaeth.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng yn cynnig prentisiaethau bwyd a diod.

Mae Coleg Sir Gar yng Nghaerfyrddin yn cynnig nifer o gyrsiau rhan-amser a llawn-amser a phrentisiaethau ym maes garddwriaeth.

 

Categorïau: Dechrau. Tagiau: training a Wales.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.